Prifadran Cymru (rygbi)

Prifadran Grŵp Indigo
Prifadran Cymru (rygbi)
Chwaraeon Rygbi'r Undeb
Sefydlwyd 1990
Nifer o Dimau 14
Gwlad Cymru
Pencampwyr presennol Castell Nedd
Gwefan Swyddogol http://wru.co.uk/84_88.php

Prifadran Cymru (a elwir yn Brifadran Grŵp Indigo am resymau nawdd) yw'r gynghrair rygbi'r undeb lefel uchaf i glybiau Cymraeg. Creuwyd y brifadran yn 1990 i greu cynghrair ar gyfer y clybiau gorau yng Nghymru.

Yn 2000, cytunodd clybiau rygbi Caeredin a Glasgow i ymuno â'r 9 clwb Cymraeg yn y brifadran i ffurfio Cynghrair Cymru a'r Alban a gymrodd lle'r Brifadran am ddau dymor.

Ers 2003, pan ffurfiwyd cynllun rygbi rhanbarthol yng Nghymru, nid Prifadran Cymru yw'r gynghrair sydd â'r rygbi o ansawdd gorau yng Nghymru. Yn lle, byddai Cymru'n cael ei gynrychioli yn y gynghrair celtaidd a'r cwpan Heineken gan dîmoedd rhanbarthol. Byddai'r clybiau yn parhau i warae yn y Brifadran Principality ond byddent yn bennaf yn gweithredu fel tîmoedd datblygol ar gyfer ei rhanbarthau.

Mae'r nifer o dîmau yn y brifadran wedi amrywio dros y blynyddoedd. Ers tymor 2006-07, mae 14 tîm yn y gynghrair. Ar ddiwedd bob tymor, bydd y ddau dîm ar waelod y brifadran yn disgyn i'r adran gyntaf, tra bod y ddau dîm ar frîg yr adran gyntaf yn cael eu dyrchafu i'r brifadran.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search